Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 14 Tachwedd 2016
Amser: 14.00 -
16.51
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3745
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Mike Hedges AC Neil McEvoy AC Rhianon Passmore AC Lee Waters AC |
Tystion: |
James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Cymru Simon Jones, Llywodraeth Cymru Mick McGuire, Llywodraeth Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Gillian Body Matthew Mortlock Mike Usher |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd Aelodau'r Pwyllgor.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC. Nid chafwyd dirprwy ar ei ran.
1.3 Datganodd Lee Waters ei fod yn ffrind personol i Gadeirydd Maes Awyr Caerdydd. Datganodd Neil McEvoy fuddiant fel un a fu’n Gyfarwyddwr cwmni a wnaeth gais am grant gan Lywodraeth Cymru. Datganodd Mike Hedges fuddiant fel un a gyflogwyd yn flaenorol yn y diwydiant alwminiwm a dur.
2.1 Cytunwyd ar y cofnodion.
3.1 Holodd y Pwyllgor James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol a Mick McGuire, Cyfarwyddwr, Sectorau a Busnes, Llywodraeth Cymru ynglŷn â Llywodraeth Cymru yn ariannu Kancoat Ltd.
3.2 Cytunodd James Price i wneud yr hyn a ganlyn:
· Rhoi eglurhad o sut y cafodd y broses o gaenu coiliau metel ei chategoreiddio fel bod o fewn y sector busnes 'Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch' a sut y daethpwyd i’r casgliad hwnnw;
· Anfon manylion am gyfradd methiant cyllid busnes yn Llywodraeth Cymru yn ystod y weinyddiaeth flaenorol;
· Rhannu’r asesiadau risg a gynhaliwyd fel rhan o'r diwydrwydd dyladwy ar gyfer cais Kancoat; ac
· Gwirio’r cofnod ynghylch ei ymateb ar natur y costau adfer ac os oes angen, anfon cywiriadau.
4.1 Nododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y Pwyllgor blaenorol o'i ymchwiliad i Gaffael Maes Awyr Caerdydd.
4.2 Holodd y Pwyllgor James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol a Simon Jones, Cyfarwyddwr Trafnidiaeth a Seilwaith TGCh, Llywodraeth Cymru ynglŷn â Chaffael Maes Awyr Caerdydd.
4.3 Cytunodd James Price i wneud yr hyn a ganlyn:
· Anfon manylion y dangosyddion perfformiad a ddatblygwyd gan Holdco;
· Yr effaith y bydd Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yn ei chael ar weithrediad Maes Awyr Caerdydd;
· Rhannu’r ohebiaeth mewn perthynas â rôl Cadeirydd CIAL ar Fwrdd Holdco;
· Anfon copi o'r Cynllun Meistr ar gyfer Maes Awyr Caerdydd, pan fydd ar gael, yn 2017;
· Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y system offer glanio; a
· Dywedodd y byddai'n ailedrych ar y diwydrwydd dyladwy a roddwyd i Cardiff Aviation ac yn rhoi sylwadau yn unol â hynny.
5.1 Nododd yr Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru i argymhellion y Pwyllgor blaenorol o'i ymchwiliad i’r Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn.
5.2 Holodd y Pwyllgor James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol a Simon Jones, Cyfarwyddwr Trafnidiaeth ac Isadeiledd TGCh, Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn.
6.1 Nododd yr Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru i argymhellion y Pwyllgor blaenorol o'i ymchwiliad i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn seilwaith band eang y genhedlaeth nesaf
6.2 Holodd y Pwyllgor James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol a Simon Jones, Cyfarwyddwr Trafnidiaeth a Seilwaith TGCh, Llywodraeth Cymru ynglŷn â buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn seilwaith band eang y genhedlaeth nesaf.
6.3 Cytunodd James Price i anfon rhagor o wybodaeth yn egluro'r mentrau sy'n cael eu cymryd i godi ymwybyddiaeth a chynyddu sgiliau digidol ar gyfer defnyddwyr y rhyngrwyd.
7.1 Nododd yr Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru i argymhellion y Pwyllgor blaenorol o'i ymchwiliad i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn seilwaith band eang y genhedlaeth nesaf
7.2 Holodd y Pwyllgor James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol a Simon Jones, Cyfarwyddwr Trafnidiaeth a Seilwaith TGCh, Llywodraeth Cymru ynglŷn â buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn seilwaith band eang y genhedlaeth nesaf.
7.3 Cytunodd James Price i anfon eglurhad o’r mewnbwn y bydd gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn yr ymgynghoriad ar y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol.
8.1 Derbyniwyd y cynnig.
9.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunwyd ar y canlynol:
Kancoat
Gofynnodd yr Aelodau i'r Clercod baratoi crynodeb o'r dystiolaeth a dderbyniwyd ynghyd ag argymhellion posibl i’w hystyried. Nododd yr Aelodau hefyd bod Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi trefnu i gynnal archwiliad o Ddulliau Cefnogi Busnes Llywodraeth Cymru yn 2017.
Maes Awyr Caerdydd
Cytunodd yr Aelodau i dderbyn adroddiad cynnydd pellach ymhen 12 mis.
Cyswllt awyr
Gofynnodd yr Aelodau am i ganlyniadau adolygiad Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith o'r cwmni hedfan Gogledd-De fod ar gael i'r Pwyllgor pan gânt eu cyhoeddi.
Band eang
Cytunodd yr Aelodau na fyddant yn gofyn am ragor o ddiweddariadau yn sgil yr ymchwiliad a gynlluniwyd gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i Fand Eang.
Cefnffyrdd
Cytunodd yr Aelodau i ystyried eto a fydd angen unrhyw ddiweddariadau pellach ar ôl derbyn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, pan fydd ar gael.